Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad: Ar-lein

Dyddiad: Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024

Amser: 09.00 - 09.31
 


Remote / Private

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Pwyllgor:

Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill yn bresennol

Jane Dodds AS

David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Lisa Griffiths, Clerc Gweithdrefnau

Llinos Madeley, Clerc

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

 

<AI1>

1       Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Tata Steel (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion  cynnig 1 - wedi’i ohirio tan 7 Mai

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion  cynnig 2 - wedi’i ohirio tan 7 Mai

·         Cyfnod 3 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (360 240 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.

 

 

Dydd Mercher

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm

 

</AI4>

<AI5>

3.2   Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 7 Mai 2024  

·         Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25 (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Blaenoriaethau ar gyfer newid hinsawdd a materion gwledig (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):

o  Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1

o  Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024

·         Dadl: Cyfnod 4 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 14 Mai 2024

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Ein cenhadaeth genedlaethol: cyflawni blaenoriaethau addysg Cymru (45 munud)

·         Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol ffermio yng Nghymru (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Blynyddoedd Cynnar: Gwella iechyd meddwl yng Nghymru (30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Ein gweledigaeth ar gyfer gofal maeth yng Nghymru (30 munud)

 

</AI5>

<AI6>

3.3   Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 8 Mai 2024

·         Dadl ar Ddeiseb P-06-1392: Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (30 60 munud)

 

Dydd Mercher 22 Mai 2024 -  

 

</AI6>

<AI7>

4       Deddfwriaeth

</AI7>

<AI8>

4.1   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:

 

Nododd y Pwyllgor hefyd y diffyg amser sydd ar gael ar gyfer craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 7 Mai a chytunodd, o ganlyniad, i beidio â chyfeirio'r Memorandwm at bwyllgorau i graffu arno. Wrth wneud hynny, nododd y Pwyllgor Busnes natur anfoddhaol y sefyllfa hon. Esboniodd y Trefnydd bod y Llywodraeth, oherwydd ei phryderon am y Bil, yn ystyried y dylai'r Senedd ei ystyried cyn gynted â phosibl, tra mae’r Bil yn dal i fod yn y camau diwygio yn San Steffan. Gan fod nifer uchel o ddiwygiadau wedi’u cyflwyno ar hyn o bryd yn San Steffan, tynnodd y Trefnydd sylw hefyd at y ffaith ei bod yn debygol y bydd Memorandwm Atodol pellach yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach.

 

</AI8>

<AI9>

5       Pwyllgorau

</AI9>

<AI10>

5.1   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am slot ar gyfer dadl

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-06-1407. Rydym am i Lywodraeth Cymru ddiddymu a dileu’r gyfraith drychinebus ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya ddydd Mercher 22 Mai

 

</AI10>

<AI11>

5.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch ei gyfarfod ar 17 Mehefin

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i'r cais i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol gwrdd cyn ei slot dynodedig ar 17 Mehefin er mwyn darparu ar gyfer sesiwn dystiolaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, ar yr amod bod holl aelodau'r Pwyllgor yn fodlon gwneud hynny.

 

</AI11>

<AI12>

6       Gwaith Gweithdrefnol

</AI12>

<AI13>

6.1   Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur ar rannu swyddi cadeiryddion pwyllgorau a chytunodd:

Holodd Heledd Fychan a ellid ystyried y potensial i alluogi rhannu swyddi mewn rolau anstatudol eraill hefyd drwy'r broses hon. Dywedodd y Trefnydd y byddai angen i'r Pwyllgor Busnes fod yn glir wrth esbonio cwmpas y gwaith hwn, a'r rhesymau drosto, yn enwedig gyda chynulleidfaoedd allanol.

Gofynnodd Darren Millar i ystyriaeth gael ei rhoi i weld a ddylai'r gwaith hwn gael ei ddatblygu gan y Pwyllgor Busnes neu'r Pwyllgor Biliau Diwygio, o ystyried yr arbenigedd y mae wedi'i ddatblygu mewn meysydd cysylltiedig. Nododd hefyd y goblygiadau posibl i aelodau meinciau cefn ar gapasiti craffu os cyflwynir deiliaid swyddi ychwanegol drwy rannu swydd.

Cytunodd y Llywydd y bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y materion hyn wrth ystyried y papur nesaf ar y pwnc hwn.

 

</AI13>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>